A Moch Pryderi Story in Welsh !

HOME

Pan oedd Pryderi yn dywysog ar Ddyfed yn Ne Cymru, roedd Math mab Mathonwy yn frenin ar Wynedd yn y Gogledd. Roedd gan Math nai o'r enw Gwydion, oedd yn ei helpu i lywodraethu'r wlad. Roedd Math a Gwydion yn ddewiniad mawr. 

Un diwrnod daeth Gwydion at Math a dweud: “Rydw i wedi clywed am fath newydd o anifail sy wedi dod i Dde Cymru. Moch mae pobl yn eu galw nhw, ac maen nhw'n dda iawn i'w bwyta.” 

     “Pwy biau nhw?” holodd Math.

     “Pryderi mab Pwyll. Fe gafodd e nhw oddi wrth Arawn brenin Annwn.”

     “Fe hoffwn i gael y moch yna,” meddai Math.

     “Ac mae gen i syniad sut i'w cael nhw,”atebodd Gwydion. Aeth Gwydion a'i frawd Gilfaethwy gyda deg o ddynion eraill i Ddyfed. Roedden nhw i gyd wedi eu gwisgo fel beirdd. Daethon nhw o hyd i Pryderi yn ei lys yn Rhuddlan Deifi yng Ngheredigion, a chael croeso mawr ganddo. Eisteddodd Gwydion wrth ochr Pryderi yn y wledd ac adroddodd storiau. Gwydion oedd y storiwr gorau yn y byd, ac roedd ei storiau'n ardderchog: “Pryderi, ga i ofyn ffafr gennych chi?”

     “Pa ffafr rydych chi eisiau ei gofyn?” holodd Pryderi.

     “Wnewch chi roi i mi'r moch gawsoch chi gan Arawn brenin Annwn?”

     “Rydw i'n ofni bod hynny'n amhosibl,” atebodd Pryderi. “Rydw i wedi addo na roia i'r moch i neb, na'u gwerthu nhw chwaith, nes eu bod wedi bridio.”

     “Arhoswch tan nos yfory cyn penderfynu,” Meddai Gwydion. “Fydd dim rhaid i chi roi na gwerthu'r moch. Fe allwch chi eu cyfnewid nhw am rywbeth gwell.”

     Y noson honno gwnaeth Gwydion anrhegion hud i'w rhoi i Pryderi am y moch. Gwnaeth ddeuddeg ceffyl hardd gyda chyfrwyau aur, deuddeg milgi gyda choleri aur a deuddeg tarian aur.

     Bore trannoeth aeth a'r rhain at Pryderi, a gofyn, “Wnewch chi roi'r moch i mi yn gyfnewid am y ceffylau, y milgwn a'r tarianau yma?”

“Gwnaf,” meddai Pryderi.

     Cychwynnodd Gwydion a'i ffrindiau adre ar unwaith gyda'r moch. “Gwell i ni frysio,” meddai Gwydion. “Dim ond am un diwrnod bydd yr hud yn para. Wedyn bydd y ceffylau a'r milgwn a'r tarianau i gyd yn diflannu.”

     Erbyn iddyn nhw gyrraedd adre i lys Math yng Nghaer Dathyl, roedd holl wlad Gwynedd yn paratoi am ryfel, achos roedd Pryderi a'i fyddin ar eu ffordd i'r Gogledd i gael y moch yn ôl. Gwisgodd Gwydion a'i ddynion eu harfau, ac aethon nhw gyda Math a'r milwyr i gyfarfod â byddin Pryderi.

     Daeth y ddwy fyddin ynghyd yn Arfon. Bu brwydr fawr a chafodd llawer o filwyr ar y ddwy ochr eu lladd. Ond o'r diwedd bu rhaid i ddynion Pryderi ffoi. Fe ffoion nhw mor bell âDol Benmaen, ac yno gwnaethon nhw heddwch.

     Cychwynnodd Pryderi a'i fyddin yn ôl tua'r De. Ond cyn hir dechreuodd brwydr arall. Yna danfonodd Pryderi neges at Math yn herio Gwydion i ymladd ag e ar ei ben ei hun, achos mai Gwydion oedd wedi dwyn y moch.

     “Rydw i'n barod i ymladd a Pryderi,” meddai Gwydion. “Dydw i ddim eisiau I ddynion Gwynedd gael eu lladd o fy achos i.”

     Yna ymladdodd y ddau. A thrwy ei nerth a'i hud llwyddodd Gwydion i ladd Pryderi. Cafodd Pryderi ei gladdu ym Maen Twrog, ac aeth ei fyddin yn ôl i Ddyfed.